05.01.2023 |
Ydych chi wedi Cofrestru gyda Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru?
Ydych chi’n ddarparwr Cynnig Gofal Plant Cymru? Os ydych yn gwybod am rieni sydd eisiau derbyn y Cynnig trwy’ch lleoliad ond heb gyflwyno eu cytundeb wedi’i gadarnhau gennych chi, yna atgoffwch nhw i wneud hynny erbyn canol dydd ar 13 Ionawr.
Ni fydd y rhai sydd heb wneud hyn yn cael eu hariannu am y gofal plant a ddarperir yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 9 Ionawr.
Cadarnhewch eich cytundebau yma.