Her Rhannau Rhydd Gymunedol

Troi Gwrthrychau Bob Dydd yn Gyfleoedd Chwarae  

Pa gyfleoedd chwarae anhygoel sy’n cuddio mewn cartrefi, garejys a blychau ailgylchu ledled eich cymuned?  

Yr wythnos hon, heriwch blant a theuluoedd i ddod yn Archwilwyr Rhannau Rhydd a helpu i ehangu casgliad eich clwb o adnoddau chwarae penagored.  

Gwahoddwch y plant i greu Rhestr Ddymuniadau Rhannau Rhydd o eitemau y byddent wrth eu bodd yn eu cael yn y clwb. 

Efallai y byddant yn awgrymu: 

  • Defnydd a llenni 
  • Blychau cardbord 
  • Tiwbiau plastig 
  • Potiau, sosbenni ac offer cegin 
  • Botymau a chaeadau poteli 
  • Cratiau a basgedi 
  • Deunyddiau naturiol 
  • Eitemau byd bach  

Gofynnwch i deuluoedd edrych o amgylch eu cartrefi am eitemau diogel nad oes eu hangen arnynt mwyach, y gellid rhoi bywyd newydd iddynt drwy chwarae.  

Gwnewch y cyfan yn hwyl! 

Crëwch Her Casglu Rhannau Rhydd.  

A all eich clwb gasglu: 

50 o diwbiau cardbord?
20 darn o ddefnydd?
100 o gaeadau poteli?
Digon o flychau i adeiladu cuddfan anferth?  

Gadewch i’r plant helpu i gyfrif y rhoddion a chofnodi’r cynnydd ar siart arddangos.  

Drwy ailddefnyddio deunyddiau a dod o hyd i ddefnydd newydd iddynt, mae plant yn dysgu y gall gwrthrychau bob dydd gael ail fywyd. Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i leihau gwastraff.  

Mae ehangu’r casgliad o adnoddau drwy roddion gan y gymuned yn enghraifft wych o wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael wrth gryfhau perthnasoedd â theuluoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod plant yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu hamgylchedd chwarae.