13.10.2022 |
Sut all clybiau helpu gwybodaeth ariannol plant
Mae Cymru Fyw wedi adrodd ar waith ymchwil o TransUnion sy’n dweud bod plant yn gadael cartref heb wybodaeth ariannol sylfaenol e.e. sut i gyllidebu a chynilo.
Tra dylai lleoliadau gofal plant bob tro ganolbwyntio ar gyfleoedd am chwarae a fydd wedi ei ddewis yn rhydd, efallai fod yna ambell i weithgaredd y gallwch eu cynnig yn eich clwb i gefnogi hyn? Fe wnaethom redeg prosiect hwyliog ar Sylfeini Byd Arian (Money FUNdamentals’), a ariannwyd drwy Santander, lle cafwyd y plant i gynllunio, cyllidebu, marchnata a rhedeg eu digwyddiadau codi arian eu hunain. Allwch chi wneud rhywbeth tebyg yn eich clwb chi?