26.05.2023 |
Sut mae chwarae’n chwalu rhwystrau mewn cymunedau?
Cenedlaethau gwahanol, diwylliannau a chefndiroedd gwahanol, syniadau a chredoau gwahanol, galluoedd gwahanol – mae ein cymunedau’n amryweddol. Mae’r gwahaniaethau hyn i gyd yn agweddau gwych ar unrhyw gymuned; ond gallant godi muriau rhwng pobl â’i gilydd. Mae chwarae’n ffordd wych o chwalu rhwystrau, gan arwain at gymunedau’n dod at ei gilydd, a sicrhau ym mhawb yr ymdeimlad gwerthfawr hwnnw o berthyn.
10 syniad o sut y gall eich lleoliad eiriol dros chwarae a chwalu rhwystrau o fewn eich cymuned:
- Cynnal sioe dalent
- Golchi ceir
- Gwahodd gwahanol bobl i gymryd rhan
- Ymweld â chartrefi ymddeol lleol
- Cystadleuaeth bobi ‘Pobi Bant’ cymunedol
- Boreau coffi a chacen
- Helfa Drysor o fewn y gymuned
- Diwrnodau garddio cymunedol
- Diwrnod chwaraeon cymunedol – dewch â’r hwyl yn ôl i’r gymuned – rasys sachau, taflu’r weli, ras 3-coes
- Nosweithiau cwis