10.12.2024 |
PWYSIG – MAE ANGEN EICH PLEIDLAIS!
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn edrych ymlaen at rannu ein llwyddiannau a’n heffeithiau, ynghyd â chipolwg o’r hyn sydd i ddod yn y flwyddyn i ddod.
Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar-lein, a fydd yn digwydd trwy dechnoleg Zoom. Fe’i cynhelir ar:
22/01/2025 | 10:30yb – 12:30yp | Ar-lein
Byddem wrth ein bodd pe gallech ymuno â ni am adolygiad o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd i ddefnyddio eich hawliau pleidleisio fel aelodau.
Os na allwch ddod, a fyddech cystal ag arfer eich hawl i bleidleisio drwy gwblhau pleidlais drwy ddirprwy ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i rywun (y Cadeirydd neu aelod o staff) bleidleisio ar eich rhan. Er mwyn i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fod â chworwm, mae angen o leiaf 10% o’n haelodaeth i bleidleisio, felly helpwch ni i gwrdd â’n rhwymedigaethau cyfreithiol drwy bleidleisio.