25.05.2024 |
Diwrnod Rhyngwladol Chwarae
Mae ar blant angen chwarae yn awr yn fwy nag erioed felly mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan mai Mehefin 11eg fydd Diwrnod Rhyngwladol Chwarae.
Sut fyddwch chi’n hyrwyddo hawl plant i chwarae a’r holl fanteision y bydd hyn yn eu rhoi i blant ar draws y byd i nodi’r diwrnod arbennig hwn?
Fe wnaeth y Gweithiwr Chwarae ac awdur, Adele Cleaver ymgyrchu’n llwyddiannus am brynhawn o chwarae yn ysgol ei merch. A allech chi wneud yr un fath neu dynnu sylw at y ffaith fod chwarae bob tro’n flaenoriaeth mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol? Mynnwch gip ar y fideo yma y gallwch ei gopïo neu ei addasu, a hefyd y templed defnyddiol iawn yma y mae Adele wedi ei lunio