Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Ar gyfer  pwy y mae’r cwrs hwn– 

Unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl arweinyddol neu fentora mewn Gwaith Chwarae, a all ddangos eu bod yn cefnogi cydweithwyr i ddarparu Gwaith Chwarae o safon. 

 

Ar gyfer pa rolau y mae hwn 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â rôl arweinyddol neu fentora yn y Sector Gwaith Chwarae. Nid yw’n gymhwyster gorfodol ond mae’n ddelfrydol i’r rhai sy’n dymuno mynd â’u dysgu i’r lefel nesaf. 

 

Beth i’w ddisgwyl 

Cwrs 2-flynedd lle profir archwiliad cynhwysfawr o Chwarae, Gwaith Chwarae a’r ddeddfwriaeth, y ddamcaniaeth a’r ymchwil sy’n sail i arfer da. 

 

Mae Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg yn rhan o’r cwrs hwn oni bai bod gan y cyfranogwr radd C neu uwch mewn TGAU yn y pwnc penodol neu gyfwerth. 

 

Yn ystod y cwrs hwn gallwch hefyd ddisgwyl: 

  • Ymweliadau Misol gan eich Swyddog Hyfforddi 
  • Hyfforddiant Ar-lein unwaith y mis gyda’r nos 
  • Ystod eang o adnoddau 
  • Sesiynau ymarferol wyneb-yn-wyneb 
  • Swyddog Hyfforddi ymatebol a chefnogol.

 

Gofynion cymhwysedd – 

  • Bod yn gweithio mewn lleoliad seiliedig-ar-chwarae.  
  • Yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos 
  • Â’r hawl i fyw a gweithio yn y  DU 
  • Bod yn 19 mlwydd oed neu drosodd  

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!