24.06.2026 |
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn Dathlu Sesiynau Llwyddiannus Cymryd Drosodd y Maes Chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae Ledled Cymru
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae llwyddiannus ar ôl cynnal sesiynau Cymryd Drosodd y Maes Chwarae mewn tair ysgol ledled Cymru, gan roi cyfle i blant fwynhau prynhawn o chwarae rhydd, dan arweiniad plant.
Roedd y dathliadau yn rhan o drydedd flwyddyn y sefydliad o gynnal sesiynau Cymryd Drosodd y Maes Chwarae, a grëwyd i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae ac i amlygu hawl pob plentyn i chwarae. Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin ac mae’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel cyfle i ddiogelu, hyrwyddo a blaenoriaethu chwarae ar gyfer datblygiad, llesiant, creadigrwydd, gwytnwch a chysylltiad cymdeithasol plant.
Yr ysgolion buddugol eleni oedd Ysgol Gynradd Llanilltuid Faerdref yn Rhondda Cynon Taf, Ysgol y Dderi yng Ngheredigion, ac The Rofft School/Ysgol Rofft yn Wrecsam. Dewiswyd pob ysgol yn dilyn enwebiadau gan y sector Clybiau All-Ysgol a phroses bleidleisio gyhoeddus, gydag un ysgol yn cael ei dewis o Dde-ddwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru.
Ar draws y tri digwyddiad, archwiliodd y plant rannau rhydd, cardbord, deunyddiau creadigol, gemau ac adnoddau chwarae, gan drawsnewid mannau ysgol yn gyfleoedd ar gyfer dychymyg, arbrofi a chydweithio. Er gwaethaf tywydd gwlyb mewn rhai ardaloedd, parhaodd y chwarae mewn meysydd chwarae, neuaddau ac ystafelloedd dosbarth, gan ddangos y gall chwarae ystyrlon ddigwydd yn unrhyw le pan roddir amser, lle a chaniatâd i blant.
Yn Ysgol Gynradd Llanilltuid Faerdref, cyrhaeddodd tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs gyda fan a cheir yn llawn adnoddau a chawsant eu croesawu gan tua 180 o blant oedd yn barod i gymryd rhan. Arweiniodd y plant eu chwarae eu hunain, gan adeiladu gyda chardbord, creu gemau, gweithio gyda’i gilydd a mwynhau prynhawn yn canolbwyntio ar hwyl, rhyddid a chreadigrwydd.
O’r pennaeth i’r gofalwr, dangosodd staff Ysgol Gynradd Llanilltuid Faerdref gefnogaeth lawn i’r digwyddiad a chroesawu ‘anhrefn’ neu’r ffocws ‘ludocentrig’, hynny yw chwarae-ganolog, oedd wrth wraidd y prynhawn.
Clywodd tîm Clybiau y plant yn dweud, “dyma’r diwrnod gorau erioed” ac “mae’n well na minecraft”, gydag un plentyn yn diolch i aelod o’r tîm am eu cefnogi i ddatrys ciwb Rubik. Roedd y ddinas gardbord yn ffefryn mawr, gydag un plentyn yn dweud nad oeddent erioed wedi profi unrhyw beth tebyg, a llawer o’r plant yn gofyn a fyddem yn dod eto.
Yn Ysgol y Dderi yng nghanol cefn gwlad Gorllewin Cymru, cyrhaeddodd ein tîm at grŵp o blant cyffrous iawn. Mwynhaodd y plant brynhawn o ddinas gardbord, swigod, morthwylion a hoelion, clai, gwisgo i fyny, adeiladu cuddfannau, marcio â sialc a llawer mwy. Ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben, arhosodd y tîm a chawsant eu croesawu gan y clwb ar ôl ysgol am ragor o hwyl. Dywedodd y pennaeth wrthym fod niferoedd y clwb wedi dyblu ar gyfer sesiwn y noson honno oherwydd hysbysebu sesiwn Cymryd Drosodd Diwrnod Rhyngwladol Chwarae. Cafodd pawb ddiwrnod gwych.
Aeth tîm Gogledd Cymru draw i Ysgol Rofft yn Wrecsam, lle cafodd 176 o blant a’r holl staff brynhawn gwlyb ond llawn hwyl drwy chwarae!
Cafodd y plant gyfle i rostio malws melys a gwneud popcorn ar ein pwll tân, mynd ati’n greadigol gyda chlai a sialc, archwilio ein gorsaf tinkering a oedd yn llawn eitemau trydan ac offer, ac adeiladu cuddfannau gwych a chreadigol gan ddefnyddio ein hoffer adeiladu cuddfannau a’n dinas gardbord.
Roedd y plant hefyd yn cefnogi ei gilydd wrth adeiladu eu cuddfannau mewn mannau uwch, a mwynhaodd un grŵp o blant y cyfle i dapio eu hathro â thâp parsel fel rhan o’r hwyl!
Roeddem yn falch iawn o gael ymweliad gan Faer Wrecsam, a ymunodd yn frwdfrydig yn y chwarae a’r gweithgareddau. Cafodd gyfle i rostio malws melys a sgwrsio gyda’r plant am eu profiadau o’r prynhawn.
Roedd y prynhawn yn llwyddiant ysgubol. Roedd modd clywed chwerthin, sgwrsio a hwyl ar draws yr iard gyfan, a chlywsom nifer o sylwadau cadarnhaol gan y plant, gan gynnwys bod hwn yn wirioneddol ‘yr amser chwarae gorau erioed’ gofynnodd sawl plentyn hefyd a allai tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ddod yn ôl ar gyfer pob amser chwarae.
Dywedodd Sarah Bird, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: “Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn gyfle pwysig i ddathlu pŵer chwarae ac i atgoffa oedolion bod angen amser, lle a chaniatâd ar blant i chwarae. Roedd yn wych gweld plant ledled Cymru yn arwain, yn defnyddio eu dychymyg ac yn mwynhau’r rhyddid i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Mae brwdfrydedd ysgolion, clybiau a chymunedau wedi helpu i wneud dathliadau eleni yn llwyddiant gwirioneddol.”
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn cydnabod chwarae fel rhan sylfaenol o blentyndod. Mae chwarae yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol plant, cynhwysiant cymdeithasol, ymdeimlad o berthyn, datrys problemau, creadigrwydd a llesiant. Drwy’r sesiynau Cymryd Drosodd y Maes Chwarae, nod Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs oedd dangos sut y gall adnoddau syml ac oedolion cefnogol helpu i greu profiadau chwarae cyfoethog i blant.
Hoffai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ddiolch i’r holl ysgolion a gafodd eu henwebu, pawb a bleidleisiodd, a’r clybiau, staff a chymunedau a gefnogodd ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Chwarae eleni.