Mae cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau cefnogaeth barhaus i’r sector Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi derbyn grant llwyddiannus gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan sicrhau cefnogaeth hanfodol barhaus i’r sector Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru am dair blynedd arall.

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn galluogi parhad ac ehangu prosiect y sefydliad, sef Cymunedau Gofal Plant Ffyniannus, gan adeiladu ar lwyddiant amlwg a sicrhau cefnogaeth barhaus i’r sector, er mwyn ateb y galw cynyddol a’r heriau parhaus.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd y rhaglen yn cefnogi dros 11,400 o fuddiolwyr yn uniongyrchol, gan gynnwys plant, Gweithwyr Chwarae a phwyllgorau gwirfoddol, wrth hefyd galluogi hyd at 19,730 o rieni a gofalwyr i weithio’n barhaol neu hyfforddi, trwy roi hyder bod eu plant yn ddiogel, yn cael i’w cefnogi, a’n ffynnu.

Bydd effaith y cyllid yn ymestyn ymhell i’r buddiolwyr uniongyrchol hyn. Disgwylir i adnoddau, hyfforddiant, a chefnogaeth i’r sector a ddatblygir drwy’r prosiect fod o fudd i gannoedd o leoliadau gofal plant ar hyd a lled Cymru, gan gefnogi degau o filoedd o blant i gyrchu cyfleoedd chwarae diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel.

 

Cryfhau cefnogaeth i sector sy’n hanfodol

Mae Gofal Plant All-Ysgol yn rhan allweddol o gymunedau ac economi Cymru, gan gefnogi lles plant wrth alluogi rhieni a gofalwyr i weithio, hyfforddi, a chynnal bywyd teuluol.

Mae’r cyllid hwn yn sicrhau cefnogaeth strwythuredig a thargedig i’r sector, gan helpu i fynd i’r afael â heriau parhaus gan gynnwys cynaliadwyedd ariannol, prinder yn y gweithlu, a galw cynyddol am ddarpariaeth gofal plant hyblyg.

Drwy’r cyfnod cyllid newydd hwn, byddai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn:

  • Cryfhau cynaliadwyedd darpariaeth gofal plant ar hyd a lled Cymru
  • Cefnogi recriwtio a datblygiad gweithlu Gwaith Chwarae medrus
  • Gwella llywodraethu, ansawdd a chynhwysiant mewn lleoliadau gofal plant
  • Ehangu cyfleoedd i blant cyrchu profiadau chwarae cyfoethog yn y gymuned

Bydd y prosiect hefyd yn parhau i sefydlu clybiau Gofal Plant All-Ysgol fel y ‘drydydd lle’ hanfodol mewn cymunedau, sef mannau lle y gall plant gysylltu, datblygu ymdeimlad o berthyn, a ffynnu y tu hwnt i’r cartref a’r ysgol.

 

Buddsoddiad targedig i gynnal a thyfu’r sector

Bydd y cyllid yn darparu cefnogaeth ymarferol ac uniongyrchol i leoliadau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Cymorth i fusnesau a chynaliadwyedd i leoliadau gofal plant
  • Hyfforddiant cyflwyniad i Waith Chwarae er mwyn darparu pwynt mynediad hygyrch i mewn i’r proffesiwn, recriwtio Gweithwyr Chwarae o gymunedau lleol, sefydlu llwybrau clir ar gyfer datblygu gyrfa a datblygu’n cyffredinol.
  • Cymorth i wella ansawdd, llywodraethu a diogelu
  • Cymorth i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant ac ymestyn darpariaeth i ddiwallu anghenion lleol

Drwy gryfhau isadeiledd a gweithlu’r sector, bydd y prosiect yn helpu i sicrhau bod darpariaeth Gofal Plant All-Ysgol yn parhau i fod yn hygyrch, yn gynaliadwy, ac o ansawdd uchel i deuluoedd ar hyd a lled Cymru.

 

Model profedig i gefnogi’r sector

Mae’r dyfarniad hwn yn adeiladu ar lwyddiant cyllid blaenorol y Loteri Genedlaethol, sydd wedi dangos effeithiolrwydd cefnogaeth wedi’i theilwra ac wedi’i harwain gan y gymuned i’r sector, ynghyd â galw parhaus cryf gan ddarparwyr gofal plant, teuluoedd, a phartneriaid.

Mae’r prosiect wedi’i lunio drwy ymgysylltiad helaeth â rhieni, lleoliadau gofal plant, a rhanddeiliaid ledled Cymru, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn berthnasol, yn ymatebol, ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

 

Croesawu’r dyfarniad

Dywedodd Jane O’Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau’r cyllid hanfodol hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y sector Gofal Plant All-Ysgol yn parhau i gael y gefnogaeth strwythuredig sydd ei hangen arno i aros yn gynaliadwy ac i dyfu.

Bydd hyn yn ein galluogi i weithio ochr yn ochr â’n cymuned, i gryfhau darpariaeth, datblygu’r gweithlu a sicrhau bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu cyrchu cyfleoedd chwarae cynhwysol o ansawdd uchel.

Rydym yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd at hyn, ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r sector dros y tair blynedd nesaf.”

 

Edrych ymlaen

Gyda’r cyllid hwn ar waith, bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru — gan helpu lleoliadau i ffynnu, cryfhau cymunedau, a sicrhau bod plant yn elwa o amgylcheddau diogel a chyfoethog lle mae chwarae a datblygiad yn cael blaenoriaeth.