05.01.2026 |
Mae newidiadau’n dod i rym ar 6 Ebrill 2026 — paratowch ar gyfer cyfrifoldebau PAYE newydd
O 6 Ebrill 2026, bydd newidiadau sylweddol i gyfrifoldebau PAYE yn dod i rym ar gyfer cadwyni cyflenwi llafur, sy’n cynnwys cwmnïau ymbarél. Os ydych chi’n asiantaeth neu’n gleient terfynol, mae’r rheolau’n golygu eich bod chi’n gyfrifol am sicrhau bod PAYE yn cael ei weithredu’n gywir pan fydd cwmni ymbarél yn cyflogi eich gweithwyr. Os byddwn yn canfod nad yw cwmni ymbarél wedi talu’r swm cywir o PAYE i ni, efallai y byddwn yn ei adennill gennych.
Er mwyn eich helpu i baratoi, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y newidiadau hyn i reolau cwmnïau ymbarél ac wedi diweddaru’r Llawlyfr Statws Cyflogaeth. Mae hyn yn rhoi manylion ar sut y bydd y newidiadau’n mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ym marchnad cwmnïau ymbarél, a beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau.
Mae paratoi’n gynnar yn hanfodol; paratowch cyn mis Ebrill 2026 drwy:
- adolygu’r canllawiau a’ch cadwyni cyflenwi llafur
- cynnal eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gwmnïau ymbarél rydych chi’n gweithio gyda nhw, gan gynnwys lleihau eich risg o ddefnyddio cwmni ymbarél sy’n gweithredu cynllun osgoi trethi
- cofrestru ar gyfer un o weminarau CThEM ar gadwyni cyflenwi llafur sy’n cynnwys cwmnïau ymbarél — mae’r sesiynau manwl hyn wedi’u cynllunio i gefnogi gofynion gweithredu ar gyfer asiantaethau a phartïon eraill mewn cadwyni cyflenwi llafur