Mae’n amser i adnewyddu’ch aelodaeth – mae rhaid gweithredu!

Bydd eich aelodaeth yn dod i ben 31/03/2026.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch i Moondance Foundation am eu cyfraniad caredig, a sy’n ein galluogi i gynnig aelodaeth i chi heb unrhyw ffi. Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus sy’n ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Cam 1: Mewngofnodwch i’ch porth gan ddefnyddio’ch manylion adnabod presennol; os ydych yn ansicr o’ch manylion mewngofnodi cysylltwch yma.

Cam 2: Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’r porth, ewch i’ch tudalen gartref ac ewch ati i wirio/diweddaru unrhyw fanylion.

Cam 3: Mae meysydd ychwanegol wedi’u hychwanegu at eich porth bellach. Cwblhewch eich gwybodaeth ar gyfer:

  1. Ba ysgolion ydych chi’n casglu o?
  2. Ydych chi’n cynnig Gofal Plant Di-dreth?
  3. Ydych chi’n cynnig y Cynnig Gofal Plant?

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif aelodaeth 2026-27 drwy e-bost o fewn 5 diwrnod.

Cliciwch yma i wylio gwers gwe gyfleus

Mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch ag adnewyddu eich aelodaeth. Rydym yma trwy’r amser i’ch helpu.

Mae gennym hefyd cyllid ar gael rhwng 1af Ebrill 2026 tan 31ain Mawrth 2027 i aelodau, Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Bydd y cyllid hwn—sydd ar gael trwy ein Prosiect Moondance Foundation yn galluogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol i ddarparu llefydd sydd wedi’u hariannu i blant a nad fyddant fel arfer yn gallu cyrchu darpariaeth. Gan roi cyfleoedd i blant a fydd yn elwa o brofiadau chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol. Gan gefnogi llesiant meddyliol ac ymgysylltiad cymdeithasol. Cysylltwch â info@clybiauplantcymru.org i ddechrau’r proses.

Buddion Aelodaeth