
10.10.2025 |
Menopos yn y gweithle
Mae’r menopos yn cael ei gydnabod fel agwedd allweddol ar gydraddoldeb rhywiol a llesiant yn y gweithle.
Byddwn ni’n cynnal dau sesiwn gwybodaeth Menopos ar-lein ar 13 Hydref a 23 Hydref.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys ac yn trin a thrafod:
- Beth yw menopos a deall y symptomau
- Pam mae’r menopos yn bwnc trafod yn y gweithle a beth all cyflogwyr ei wneud amdano
Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i gofrestru am y sesiwn os gwelwch yn dda.