23.11.2023 |
Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid
Rydym wrth ein boddau i rannu bod ein rhaglen ariannu flaenllaw, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, yn newid i gefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad ledled y DU yn well.
O ganol dydd heddiw, byddwch chi’n gallu:
- Ymgeisio am gyllid rhwng £300 ac £20,000 i gefnogi eich prosiect, cynnydd o’r uchafswm o £10,000 yn flaenorol
- Cael eich ariannu am gyfnod o ddwy flynedd yn hytrach nag un flwyddyn.
Rydym wedi dyblu faint o arian y gallwch ymgeisio amdano ac am ba mor hir y byddwn yn ariannu eich prosiect.
Mae’r newidiadau hyn i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cyflawni addewid ein strategaeth newydd, Cymuned yw’r man cychwyn, a lansiwyd ym mis Mehefin eleni. Mae hyn yn nodi’r gwahaniaeth mwyaf i gyllid y Loteri Genedlaethol am genhedlaeth.
I weld sut mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau, gwyliwch ein fideo yma.
Eisiau dysgu rhagor?
Ewch i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth, ac i ymgeisio.