Grant y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol i Gaerffili

Mae Chwarae Caerffili yn gyffrous i gyhoeddi bod grant Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn ôl eleni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yw dydd Mercher Awst 7fed  a’r thema eleni yw ‘Chwarae – diwylliant plentyndod’, gan gefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch”.

Mae lleoliadau yn gymwys i wneud cais am grant bach hyd at £250 i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr sector preifat a gwirfoddol, a lleoliadau nas cynhelir sy’n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant all-ysgol, ac ati. Rhaid i’r grŵp/lleoliad fod wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae angen e-bostio pob cais i willil17@caerphilly.gov.uk erbyn Dydd  Gwener Gorffennaf 12fed erbyn 12yh.

Cysylltwch â niad@clybiauplantcymru.org os hoffech ffurflen gais.