
21.02.2025 |
Adnodd Newydd yn Camu Allan
Mae cefnogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol â’n hadnoddau Camu Allan yn un o’n manteision aelodaeth. Mae ein templedi dwyieithog yn rhoi man cychwyn i Glybiau ar gyfer eu polisïau unigol eu hunain y gellir eu golygu’n llawn, a’u haddasu i bob lleoliad unigol. Yna gall clybiau ddatblygu eu polisi a bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru unwaith y bydd y polisïau hyn wedi’u gwreiddio yn arferion pob clwb. Bydd cael polisi a phroses glir ar gyfer cyfenwi gefnogi eich staff i fod yn hyderus eu bod yn cael eu diogelu o fewn eu rôl.
O fewn Cam 10 – Camu Allan rydym yn cyflwyno templed ABCC, ffurflen y gellir ei haddasu i Glybiau gofnodi unrhyw ddigwyddiadau neu ymddygiad heriol sy’n digwydd eto. Mae’r ffurflen hon yn cefnogi’r polisi ymddygiad a bydd yn galluogi timau i ddeall yn llawn y sbardunau sy’n achosi ymddygiad penodol mewn plentyn. Hefyd nodi patrymau a allai ddigwydd, megis yn ystod cyfnodau pontio o ysgol i glwb, neu yn ystod gweithgareddau penodol. Bydd hyn yn gymorth i staff mewn Clybiau ddeall yr ymddygiad yn well, gan roi cyfleoedd i adolygu ac addasu profiadau ar gyfer pob plentyn unigol,
Mae hwn hefyd yn gofnod cyfrinachol y gellir ei ddefnyddio i gofnodi digwyddiadau, a chyda chaniatâd cywir rhieni, i weithio mewn partneriaeth â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill os bydd angen.