Cyswllt Rhieni Cymru – ‘Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr i hyrwyddo hawliau plant

Mae Cyswllt Rhieni Cymru yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Plant yng Nghymru gyda chyllid wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Ymgysylltu â rhieni/gofalwyr yn genedlaethol a chreu:

 

Llwyfan Cymru-gyfan sy’n cynnig dull dwy ffordd i leisiau rhieni gael eu clywed ac i fwydo i mewn i ddatblygiad polisi gan arwain at gyfranogiad ystyrlon ar ffurf cyd-gynhyrchu’. 

 

Dod i wybod beth mae rhieni yn ei ddweud am yr heriau y maent yn eu hwynebu

 

Dydd Mercher, Hydref 23 · 10 – 11:30yb, bwciwch i ymuno â’r Weminar Ar-lein

 

Tocynnau Gweminar Llais Rhieni Ledled y Pedair gwlad, Hyd 23 2024 am 10.00yb |Eventbrite

Byddwn yn rhannu’r hyn y mae rhieni yn ei ddweud wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu. Archwiliwch themâu o’r pedair Gwlad, Gogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban, a Lloegr ac ymunwch â’n Holi ac Ateb i drafod ffyrdd ymlaen ar gyfer cefnogi teuluoedd.

Byddwn hefyd yn rhannu trosolwg a fideo o ganlyniadau ein cystadleuaeth ffotograffau lle gwnaethom ofyn i rieni anfon lluniau i rannu â ni y pethau sy’n gwneud eu teuluoedd yn unigryw neu’n arbennig.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ymgysylltu ag arbenigwyr a dysgu mwy am brofiadau rhieni ledled y DU!

Ewch i’r wefan

Gwybodaeth pellach