05.07.2024 |
Diwrnod Chwarae 2024, Dydd Mercher 7 Awst: Ydych chi’n barod?
Byddai’n da iawn gennym petaech yn ymuno â ni i ddathlu’r Diwrnod Chwarae eleni a Thema Diwrnod Chwarae 2024 yw ‘Chwarae – diwylliant plentyndod – gan gefnogi chwarae, hwyl a chyfleillgarwch (ar draws cenedlaethau a diwylliannau) a byddwn yn bresennol mewn digwyddiadau sir a digwyddiadau clybiau ar y Diwrnod Chwarae i ddathlu a hyrwyddo chwarae.
Byddwn yn rhannu awgrymiadau ar chwarae cyn y diwrnod mawr a byddai’n a iawn gennym petaech yn rhannu’ch awgrymiadau chi ac yn ein tagio #showusyourplay ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gynyddu’r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y diwrnod, hoffem yn fawr petaech chi’n ymuno â’n gweithgaredd, sef creu wal chwarae neu bynting (gwelwch ran ‘gweithgareddau’ y bwletin yma. Tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol (#dangoswchinnichchwarae) neu rhannwch eich lluniau â ni drwy info@clybiauplantcymru.org i’n helpu i greu’r wal chwarae / mosaig mwyaf, mwyaf lliwgar ac amrywiol y gallwn fyth ei greu.