Cyfleoedd Hyfforddiant Gwaith Chwarae

A oes gan eich tîm cyfan Gymwysterau Gwaith Chwarae?

A ydych yn cael trafferth recriwtio staff, ond â’r ymgeiswyr heb y cymwysterau perthnasol ar gyfer eich clwb chi?

Allwch chi gefnogi darpar staff i gael mynediad at gyflogaeth, swyddi gwirfoddol neu gynlluniau prentisiaeth yn eich sefydliad chi?

Gall unrhyw un sydd am ennill Cymhwyster Gwaith Chwarae gael mynediad i gyrsiau cyfredol sydd ar gael trwy ein tudalen hyfforddiant ar ein gwefan.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwblhau Cymhwyster Gwaith Chwarae ac a hoffai gael ei ystyried ar gyfer cyrsiau, prentisiaethau a chymwysterau lefel uwch yn y dyfodol, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb, yn cynnwys eich manylion cyswllt, a’r lefelau ar hyn o bryd, ar gyfer ein tîm.  Ein nod yw eich cefnogi ar eich taith yrfa Gwaith Chwarae trwy sicrhau eich bod yn cael y cyfleoedd i gyrchu a datblygu eich sgiliau.

Tudalen hyfforddiant ein gwefan 

Datganiad o Ddiddordeb