13.12.2024 |
Polisi’r Wythnos: Polisi Bwyd a Diod
Mae’n fis prysur o bartïon! Gobeithiwn eich bod yn cael amser gwych yn dathlu yn ystod tymor y Nadolig. Wrth gwrs, ni fyddai parti’n gyflawn heb bwffe! Mae hynny’n ein hatgoffa o’n polisi bwyd a diod. Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod y Clwb yn anelu at hybu arferion bwyta da gydol oes, trwy ddarparu byrbrydau iach sy’n bodloni gofynion maethol plentyn sy’n tyfu, a hefyd trwy annog arferion bwyta cymdeithasol da mewn amgylchedd hylan. Os nad oes gennych un eisoes, nawr yw’r amser perffaith i lawrlwytho ein templed er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn newydd!
Dewch o hyd i hwn yng Ngham 10 o Polisïau a Gweithdrefnau’r Clwb wrth Gamu Allan.