Polisi’r Wythnos: Y Weithdrefn Salwch/Absenoldeb

Yn ystod tymor y gaeaf, mae llawer o leoliadau yn wynebu llawer iawn o salwch staff. Oes gennych chi weithdrefn salwch/absenoldeb? Mae hon yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth sydd i ddigwydd nesaf os bydd yw rhywun yn mynd yn sâl /yn cael  anaf. Mae ein templed yn cwmpasu’r broses hysbysu, ardystio, dychwelyd i’r gwaith, tâl, apwyntiadau meddygol a mwy.

Os yw hwn gennych eisoes, beth am groesgyfeirio i wneud yn siŵr bod popeth wedi’i gynnwys.

 

Fe ddowch o hyd i hwn yng Ngham 11 Polisïau, Gweithdrefnau a Ffurflenni Staff, yn Camu Allan.

(Peidiwch ag anghofio mewngofnodi i’n gwefan cyn cyrchu!).

Cam 11 Polisïau, Gweithdrefnau a Ffurflenni Staff – Clybiau Plant Cymru (CY)