14.06.2024 |
Rhowch gychwyn ar yrfa mewn Gwaith Chwarae
Oes gennych chi wirfoddolwyr sy’n meddwl am yrfa mewn Gwaith Chwarae? Oes yna bobl yn eich cymuned a hoffai gael hyfforddiant i ddod yn Weithiwr Chwarae? Mae gennym ddigonedd o arweiniad a hyfforddiant, ac mae yna hefyd swyddi gwag ar ein bwrdd swyddi trwy ein gwefan.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ac yn cyfeirio unrhyw un y credwch a allai fod â diddordeb i’n gwefan. Rydym am sicrhau bod –
- Mae hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr, staff a darpar ddysgwyr newydd yn cael eu cefnogi i fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael/
- Cefnogi recriwtio a chadw staff ar gyfer Clybiau Gofal Plant All-Ysgol.
- Bod pawb yn cael y profiadau gorau yn eich clwb gyda staff sy’n caru chwarae gymaint â’r plant.
Os hoffech drafod hyfforddiant, neu unrhyw elfen o’ch busnes gofal plant, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm.
https://clybiauplantcymru.org/wp-content/uploads/2024/06/final-career-cards-3.pdf