Mae preifatrwydd eich gwybodaeth o’r pwysigrwydd pennaf i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu ein polisïau a’n hegwyddorion o ran preifatrwydd ar-lein ac yn berthnasol i’r wefan gyfan. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd ac i wneud ein rhan i barchu cynnwys y Rhyngrwyd. Oherwydd natur gyfnewidiol anghenion defnyddwyr, a’n busnes, cadwn yr hawl i addasu ein polisi preifatrwydd ar unrhyw adeg yn ddirybudd. Gan ein bod am sicrhau ar bob adeg fod ein polisi preifatrwydd yn ddealledig, argymhellwn eich bod yn adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd er mwyn nodi unrhyw newidiadau posibl iddo
Pan fyddwch yn ymateb i bost electronig, y cyfryngau cymdeithasol neu rywbeth ar ein gwefan, mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Gall y wybodaeth hon gynnwys – ond heb fod yn gyfyngedig i – wybodaeth a fyddai’n fodd i’ch adnabod, yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhywedd a dyddiad geni.
Mae’r wybodaeth yma’n ofynnol gennym er mwyn darparu ein gwasanaethau ar eich cyfer, ac yn arbennig (ond nid yn unig) am y rhesymau canlynol:
· Cadw cofnodion mewnol
· Gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
· Dilyn cwestiynau, mynegiannau o ddiddordeb neu bethau eraill a gyfathrebir naill ai drwy e-bost, ffôn, ffacs, y cyfryngau cymdeithasol neu’r post.
· Ar gyfer e-byst hyrwyddo o bryd i’w gilydd, ymgyrchoedd sy’n targedu’n benodol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, wybodaeth am wasanaethau newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb i chi drwy’r cyfeiriad e-bost y byddwch wedi ei roi.
· I gysylltu â chi i bwrpasau ymchwil i’r farchnad. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, y ffôn, y cyfryngau cymdeithasol, ffacs neu’r post, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis priodol.
· Mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon eraill yr ystyriwn y byddai eu cynnyrch neu’u gwasanaethau o ddiddordeb i chi, oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych am i hyn ddigwydd.
Drwy roi eich gwybodaeth ar-lein, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth yn ôl yr hyn a osodir yn ein polisi preifatrwydd. Os nad ydych am i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i bwrpasau marchnata uniongyrchol, na rhyddhau eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon, anfonwch e-bost i info@clybiauplantcymru.org
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch wneud cais am y manylion personol amdanoch sydd yn ein meddiant. Bydd ffi swyddogol yn daladwy. Os byddwch am wneud cais dylech ysgrifennu at:
Y Prif Swyddog Gweithredol
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Tŷ’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth amdanoch sydd yn ein meddiant yn anghywir neu’n anghyflawn, dylech ysgrifennu at ein Swyddog Cydymffurfio â Diogelu Data yn y cyfeiriad uchod. Caiff unrhyw wybodaeth y gwelir ei bod yn anghywir ei chywiro cyn gynted â phosibl.
Ymdrechwn i warchod diogelwch y wybodaeth a roddwch i ni, a byddwn yn defnyddio’r mesurau diweddaraf i roi diogelwch o’r fath.
Mae croeso i chi anfon ymlaen atom yn info@clybiauplantcymru.org unrhyw sylwadau o’ch eiddo ar y polisi hwn.