Disgrifiad
Rydym yn falch o’ch gwahodd i ymuno â ni i ddathlu chwarter canrif o gefnogi, grymuso a hyrwyddo Clybiau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru.
🕓 Digwyddiad: Ein Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant wyneb yn wyneb gyntaf erioed
📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn, 3ydd Hydref 2026
📍Lleoliad: i’w gadarnhau
Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn dod a chlybiau, gweithwyr proffesiynol, a phartneriaid o bob rhan o’r sector at ei gilydd ar gyfer diwrnod o ysbrydoli, dysgu, cysylltu – a dathlu!
✨ Nodwch y dyddiad yn eich calendr nawr – peidiwch â cholli’r cyfle! ✨
Bydd Gwybodaeth bellach a gwybodaeth am archebu yn dilyn yn fuan.
