Clwb Hwb- Dangos, cefnogi teuluoedd yng Nghymru – 02/12/2026 (22744)

£0.00

18:30-19:30  Ar-lein

4 in stock

Nifer:

Disgrifiad

Cewch wybodaeth am Dangos a sut y gallwch gefnogi teuluoedd yn eich Cymuned.
Bob dydd, mae staff Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn cael sgyrsiau â theuluoedd a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol neu heriau eraill yn eu bywydau. Gall sgwrs syml a chyfeirio at y cymorth cywir helpu teulu cael incwm ychwanegol, grantiau, cymorth gyda chostau ynni, cymorth gofal plant, neu gymorth arall y mae ganddynt hawl iddo.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gryfhau’r cymorth y mae eich clwb yn ei ddarparu.
• Ymunwch â’n sesiwn wybodaeth i ddysgu am hyfforddiant Dangos am ddim i’ch tîm.
• Cynyddu eich hyder wrth gefnogi teuluoedd sy’n wynebu anawsterau ariannol.
• Helpu teuluoedd yn eich cymuned i gyrchu cymorth ariannol sydd ar gael iddynt.
• Dod yn rhan o rwydwaith ledled Cymru sy’n helpu i sicrhau nad yw unrhyw deulu’n colli allan ar y cymorth y maent yn ei haeddu.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu teuluoedd i wneud y gorau o’u hincwm, gwella eu llesiant, a sicrhau bod plant yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ffynnu.