Disgrifiad
Ymunwch â’n Clwb Hwb a gyflwynir yn ddwyieithog gan ddau aelod o staff Cyfranogiad o Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, lle byddwn yn darparu cyfle i chi ddysgu rhagor am:
- Rôl Comisiynydd Plant Cymru
- Ein tîm Cyngor a Chymorth cyfrinachol rhad ac am ddim
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNRC)
- Ystod o adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim sydd ar gael i’w defnyddio
Bydd y sesiwn hon yn anelu at ddarparu dealltwriaeth eang o waith Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, drwy eich cefnogi i gyrchu a defnyddio ein hadnoddau yn eich lleoliadau Gofal Plant, gan rymuso plant a phobl ifanc i hawlio eu hawliau.
18:30-19:30. Ar-lein