Clwb Hwb – Llesiant y Gweithle 14/07/2026 (22702)

£0.00

18:30-19:30  Ar-lein

2 in stock

Nifer:

Disgrifiad

Ymunwch â’n Clwb Hwb sef rhaglen genedlaethol rhad ac am ddim, lle byddwn yn dysgu rhagor am Iechyd Gweithio Cymru (HWW) –  a’n ceisio gwella iechyd ac atal afiechyd yn y gweithle drwy gefnogi cyflogwyr, arweinwyr ac aelodau pwyllgor ledled Cymru. Mae HWW yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae HWW yn cefnogi cyflogwyr, arweinwyr ac aelodau pwyllgor i:

  • Greu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel.
  • Cymryd camau i wella iechyd a lles eu staff a hyrwyddo ymddygiadau iach.
  • Atal a rheoli absenoldeb oherwydd salwch, a chefnogi dychweliad effeithiol i’r gwaith er mwyn atal pobl rhag gadael y gweithle oherwydd afiechyd.
  • Cefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor i barhau mewn gwaith.

Ymunwch â ni yn Clwb Hwb Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i ddarganfod sut y gall HWW gefnogi eich sefydliad gyda iechyd a lles.