Disgrifiad
Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a darganfyddwch Clwb Hwb gyda MagicBooking.
Darganfyddwch sut y gall MagicBooking, sef system arweiniol ar gyfer archebu a rheoli gwasanaethau gofal plant – drawsnewid eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol.
Mae MagicBooking yn grymuso ysgolion a chlybiau i ffynnu drwy eu galluogi i adennill amser a dreulir ar waith gweinyddol a chanolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: y plant maen nhw’n gofalu amdanynt.
Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar awr o hyd hwn, lle bydd tîm MagicBooking yn arddangos manteision eu system arloesol ar gyfer archebu a rheoli; system a ddyluniwyd yn benodol i wneud pethau’n haws i glybiau gofal plant ‘cofleidol’ a Chlybiau Gofal Plant All-Ysgol.
Byddwch yn gadael gyda dealltwriaeth glir o:
🔹 Sut mae MagicBooking yn eich helpu i leihau’r amser a dreulir ar waith gweinyddu dyddiol
🔹 Sut i ddefnyddio technoleg i helpu eich clwb i dyfu a ffynnu
🔹 Sut y gall adrodd ariannol gefnogi llywodraethu cryf a goruchwyliaeth bwyllgor
P’un a ydych chi’n:
🔹 Darparwr gofal plant bach neu fawr sy’n edrych i symleiddio gweinyddiaeth
🔹 Aelod o bwyllgor sydd eisiau systemau rheoli ariannol cadarn a mwy o oruchwyliaeth
🔹 Rheolwr clwb sy’n awyddus i weithio’n ddoethach gyda system archebu a rheoli effeithlon o ddydd i ddydd
🔹 Sefydliad sy’n edrych i gefnogi twf a datblygiad trwy brosesau busnes gwell
Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i weld sut y gall MagicBooking helpu eich clwb i weithredu’n fwy effeithlon ac effeithiol.
