Disgrifiad
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB), a gynhelir yng Ngwesty a Sba Metropole, Llandrindod, LD1 5DY. Cynhelir y cyfarfod:
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026 | 10:30am – 12:30pm
Ymunwch â ni i adolygu’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac i hawlio eich hawliau pleidleisio fel aelod.
Os na allwch ddod, defnyddiwch eich hawl i bleidleisio drwy gwblhau pleidlais trwy ddirprwy ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i rywun arall (y Cadeirydd neu aelod o staff) i bleidleisio ar eich rhan. Er mwyn i’n CCB fod yn gyfansoddiadol ddilys, mae angen i o leiaf 10% o’n haelodau bleidleisio, felly helpwch ni i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol drwy bleidleisio yma.
Felly, i grynhoi, mae angen i chi weithredu ar ôl derbyn yr e-bost hwn. Naill ai archebwch eich lle i fynychu’r CCB, NEU penodwch ddirprwy i bleidleisio ar eich rhan, gan ddefnyddio’r dolenni isod.