🎉 Nodwch y Dyddiad!🎉 Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn troi’n 25!

Dydd Sadwrn, 3ydd Hydref 2026

Disgrifiad

Rydym yn falch o’ch gwahodd i ymuno â ni i ddathlu chwarter canrif o gefnogi, grymuso a hyrwyddo Clybiau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru. 

🕓 Digwyddiad: Ein  Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant wyneb yn wyneb gyntaf erioed

📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn, 3ydd Hydref 2026

📍Lleoliad: i’w gadarnhau

Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn dod a chlybiau, gweithwyr proffesiynol, a phartneriaid o bob rhan o’r sector at ei gilydd ar gyfer diwrnod o ysbrydoli, dysgu, cysylltu – a dathlu!

 Nodwch y dyddiad yn eich calendr nawr – peidiwch â cholli’r cyfle!  

Bydd Gwybodaeth bellach a gwybodaeth am archebu yn dilyn yn fuan.