Cymunedau Gofal Plant sy’n Ffynnu

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein prosiect Cymunedau Gofal Plant sy’n Ffynnu yn cryfhau clybiau gofal plant all-ysgol ledled Cymru drwy ddarparu cymorth wedi’i deilwra, gan helpu clybiau i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd yn eu cymunedau lleol.
 Dros y tair blynedd nesaf, disgwylir i’r prosiect fod o fudd i 11,416 o weithwyr chwarae, rheolwyr a phlant, gan alluogi hyd at 19,730 o rieni a gofalwyr i barhau mewn gwaith neu hyfforddiant. Bydd hyn yn cyfrannu at gymunedau cryfach, sy’n mwy cysylltiedig.

Mae Clybiau Gofal Plant All-sgol yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant, gan ddarparu mannau diogel a chroesawgar lle gallant chwarae’n rhydd, adeiladu perthnasoedd, datblygu sgiliau cymdeithasol a magu hyder. Mae’r clybiau hyn yn gweithredu fel ‘Trydydd Lleoedd’ pwysig – mannau y tu hwnt i’r cartref a’r ysgol lle gall plant a theuluoedd gysylltu, meithrin ymdeimlad o berthyn, a datblygu cysylltiadau cryf o fewn eu cymunedau. 

Mae’r cysyniad o ‘Drydydd Lleoedd’ yn amlygu tri math o le sy’n cefnogi lles unigolion a chymunedau: 

  • Lle Cyntaf – y cartref 
  • Ail Le – yr ysgol neu’r gweithle 
  • Trydydd Lle – mannau cymunedol lle mae pobl yn dod ynghyd 

Mae ein gwaith yn cydnabod bod cymunedau cryf yn dibynnu ar gydbwysedd rhwng y tri lle hyn, gyda Clybiau Gofal Plant All-Ysgol mewn sefyllfa unigryw i bontio’r bwlch rhyngddynt. 
Cymunedau Gofal Plant sy’n Ffynnu

Mae ein prosiect Cymunedau Gofal Plant sy’n Ffynnu wedi’i gynllunio i gryfhau a hyrwyddo gofal plant all-ysgol.

Drwy’r prosiect hwn byddwn yn:

  • Cefnogi plant a theuluoedd i gyrraedd eu potensial drwy osod Clybiau Gofal Plant All-Ysgol fel ‘Trydydd Lleoedd’, sy’n cael eu cynnal a’u gwerthfawrogi gan eu cymunedau eu hunain. 
  • Gwella rhagolygon a chydlyniant cymunedau, gyda hyfforddiant Gwaith Chwarae lleol, swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli, gan gryfhau Clybiau All-Ysgol fel ‘Ail Leoedd’ gwerthfawr sy’n helpu i leddfu heriau’r sector o ran y gweithlu. Dysgwch ragor am Waith Chwarae Lefel 1 yma. 
  • Cefnogi plant i ffynnu o fewn ‘Trydydd Lleoedd’ cymunedol, drwy gefnogi Clybiau diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel lle rhoddir blaenoriaeth i gysylltiadau dynol a chwarae. 

Sut rydym yn darparu cymorth 

Mae’r cymorth wedi’i deilwra ac yn ymatebol i anghenion y Sector Gofal Plant All-Ysgol, ac yn cael ei ddarparu gan dîm o Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant (SDBGP) profiadol sy’n gweithio ledled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys: 

  • Sesiynau sgiliau busnes un-i-un sy’n cefnogi ansawdd, cynaliadwyedd a llywodraethu. 
  • Pecynnau cymorth gwella ansawdd a chynllunio gweithredu, gan gynnwys 
  • Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (OSCA) 
  • Dadansoddiad Anghenion Marchnata (MNA) 
  • Gwiriadau Iechyd Diogelu (SHC) 
  • Pecyn Cymorth Archwilio Gwrth-hiliaeth 
  • Clwb Hwbs rheolaidd (gweminarau), gan dynnu ar arbenigedd y sector ac arfer da 

Hoffem estyn ein diolch diffuant i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud y prosiect hwn yn bosibl.

Mehefin 2026