
07.03.2025 |
Cyhoeddi Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae – Chwefror 2025
Helo bawb,
Mae’n bleser gen i roi gwybod ichi ein bod wedi cyhoeddi’r Adroddiad Cynnydd cyntaf ar yr Adolygiad Gweinidogol ar Chwarae yn y ddolen isod. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi’i wneud o ran bwrw ymlaen â’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt:
Hoffwn fynegi fy niolch innau, a diolch fy nhîm, am fewnbwn parhaus Chwarae Cymru, Cwlwm, swyddogion arweiniol awdurdodau lleol a’n rhanddeiliaid allweddol eraill, i’n helpu i wneud cryn gynnydd o ran camau gweithredu’r Adolygiad.
Y camau nesaf
Byddwn yn cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig o’r Canllawiau Statudol, ‘Cymru – Gwlad lle mae Cyfle i Chwarae’ yn nes ymlaen y mis hwn.
Mae swyddogion polisi chwarae wrthi hefyd yn datblygu fersiwn ac animeiddiad addas-i-blant o’r Adroddiad Cynnydd, yn barod i’w cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Byddwn yn parhau i’ch diweddaru chi, a byddwn yn gwerthfawrogi eich adborth, wrth inni weithio i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwlad lle mae cyfle i chwarae.