Marchnata wedi’i wneud yn hawdd

P’un a ydych yn awyddus i hyrwyddo manteision bod yn gofrestredig, recriwtio aelodau newydd o staff neu atgoffa teuluoedd eich bod yn cynnig gofal plant gwyliau drwy gydol y flwyddyn, dyma’r pecyn i chi.

Nid yn unig y mae gennym dempledi y gellir eu haddasu i ychwanegu eich oriau agor, prisiau a manylion eich gwasanaeth, ond mae gennym hefyd gynnwys parod i’w ddefnyddio, gan ei gwneud yn hawdd i chi bostio ar y cyfryngau cymdeithasol wrth fynd.

Gan ddefnyddio ein templedi Marchnata wedi’i wneud yn hawdd, sydd wedi’u dylunio i’w haddasu, gallwch deilwra eich deunyddiau hyrwyddo i weddu i’ch gwasanaeth. Fe welwch amrywiaeth o dempledi i gefnogi eich cynllun marchnata a’ch helpu i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’ch cymuned.

Mae gennym hefyd ystod eang o ddyluniadau ar thema’r haf i chi eu dewis a’u haddasu drwy Canva. I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech gymorth, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant neu e-bostiwch: info@clybiauplantcymru.org

Gallwn hefyd eich cefnogi i wneud eich deunyddiau marchnata yn ddwyieithog.