22.01.2022
Cefnogi fy Hawliau i yn fy Nghlwb Allysgol i
Cyfres o adnoddau ynghyd â thempledi a chanllawiau i’ch helpu i gefnogi hawliau plant, cadw plant wrth galon yr hyn yr ydych yn ei wneud yn eich clwb a bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
“Mae gan bawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, ac sy’n gweithio gyda nhw, rôl i’w chwarae wrth gydnabod hawliau plant a’u helpu i gyrraedd eu potensial fel unigolion” Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (SGC) (llyw.cymru) Mai 2023
Bydd yr adnoddau’n eich helpu i fodloni’r prif feysydd yn thema ‘Llesiant’ y Fframwaith Archwilio, childcare-play-and-open-access-inspection-and-ratings-provider-guidance-en.pdf (careinspectorate.wales) ac yn sicrhau bod plant:
- yn cael eu hannog i siarad, mynegi eu hunain a chyfrannu syniadau
- yn mynegi eu safbwyntiau ac yn gwybod y bydd eu syniadau’n cael gwrandawiad
- â rhan ym mhroses benderfynu eich clwb (Safon 7, y SGC),
- yn deall eu hawliau mewn ffyrdd ymaferol
- yn rhoi eu hawliau ar waith drwy gyfrannu at bolisïau eich lleoliad ac yn defnyddio eu llais i lunio pob agwedd ar eich lleoliad
- yn cael eu hannog i deimlo’n ddiogel, yn hapus, a bod gwerth iddynt.
Gweithgareddau ar gyfer Ymgynghori â Phlant a Phobl Ifanc yn eich Clwb Allysgol
Yn dilyn dull calendr Comisiynydd Plant Cymru o hyrwyddo Hawliau Plant, gallwch gynllunio trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at un hawl bob mis.
Mynnwch Fynediad Llawn
Mae’r cynnwys hwn ar gael i aelodau’n unig.
Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gael mynediad at gannoedd o’n hadnoddau. Mae aelodaeth yn gwarantu eich mynediad at gynnwys o safon gennym, sydd cael ei lunio’n ddyddiol i'ch helpu I gefnogi’ch clwb.