Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau’r amddiffyniad i bobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso ledled Cymru

Bydd pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso a’u hecsbloetio yn cael eu hamddiffyn yn well o dan raglen ddiogelu newydd sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru. Bydd y rhaglen newydd, Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, yn cyflwyno un dull cenedlaethol o ddiogelu, gan helpu i wella arweinyddiaeth, atebolrwydd, rhannu gwybodaeth a chysondeb ar draws y system.

Mae datblygiadau allweddol yn cynnwys creu Bwrdd Goruchwylio Diogelu Gweinidogol newydd i gryfhau arweinyddiaeth genedlaethol, swyddogaeth ddiogelu o fewn y Ganolfan Deallusrwydd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i nodi risgiau sy’n dod i’r amlwg yn gynharach, a datblygu Cynllun Diogelu Cenedlaethol a Chofrestr Risg Genedlaethol i gefnogi dull mwy cyson ledled Cymru.

 

Bydd y rhaglen hefyd yn cryfhau’r dysgu sy’n deillio o adolygiadau diogelu, arolygiadau, data ac ymarfer, gan helpu sefydliadau i nodi pryderon yn gynharach ac ymateb yn fwy effeithiol. Yn hollbwysig, bydd lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sydd mewn perygl, dioddefwyr a goroeswyr wrth wraidd y gwaith o lunio gwasanaethau diogelu ledled Cymru.

Mae’r fenter hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar Awdurdod Diogelu Oedolion a Phlant i Gymru a chynigion i wneud rhoi gwybod am gam-drin yn orfodol.

Darllen mwy