Rhybudd: Newidiadau i ofynion DBS

O 1 Medi 2026, bydd yr eithriad goruchwylio ar gyfer gweithgaredd rheoledig gyda phlant yn cael ei ddileu.  

Mae’r newid hwn yn effeithio ar unrhyw sefydliad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd â staff cyflogedig neu wirfoddolwyr sy’n addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofalu am blant neu’n eu goruchwylio.  

Os yw unigolyn yn addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofalu am blant neu’n eu goruchwylio yn ddigon aml, bydd yn cyflawni gweithgaredd rheoledig gyda phlant hyd yn oed os yw’n cael ei oruchwylio gan rywun arall. Mae hyn yn golygu y bydd sefydliad yn gallu gwneud cais am wiriad DBS Manwl ar gyfer y gweithlu plant, ynghyd â gwiriad Rhestr Waharddedig Plant. 

Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu i’ch sefydliad. 

Darllenwch rhagor drwy’r ddolen isod: Newid i’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant o 1 Medi 2026 – GOV.UK