11.11.2022 |
Diogelu i elusennau ac ymddiriedolwyr
Mae gan bob elusen gyfrifoldeb i sicrhau nad ydynt yn achosi niwed i unrhyw un sydd mewn cysylltiad â nhw. Mae gan elusennau sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn risg gyfrifoldebau ychwanegol.
Fel ymddiriedolwr mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Hyd yn oed os ydych yn dirprwyo rhai gweithgareddau i bersion neu grŵp i arwain ar ddiogelu, gallwch chi barhau â chyfrifoldeb cyffredinol. Mae diwylliant diogelu cryf yn golygu:
- eich bod yn amddiffyn pobl
- yn lleihau i’r eithaf risgiau o unrhyw niwed neu gamdriniaeth
- bod pawb yn hyderus yr ymdrinnir â’u pryderon yn briodol
- bod pawb sydd ynglŷn â’r elusen yn deall eu rôl
Gwyliwch fideo byr a darllenwch y deunydd canllaw yma.