17.01.2025 |
Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth (SASS) 2025
Beth yw SASS?
SASS yw ffurflen ar-lein, y mae’n rhaid i Bersonau Cofrestredig a Phobl Sy’n Gyfrifol ei chwblhau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob gofalwr plant a darparwyr gofal plant a chwarae sydd wedi’u cofrestru gyda ni cyn 31 Rhagfyr 2024.
Nid oes angen i ddarparwyr sydd wedi cofrestru ar ôl 31 Rhagfyr 2024 gwblhau’r ffurflen SASS eleni.
Bydd y wybodaeth a ddarperir i ni gan ein darparwyr drwy’r ffurflen SASS yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau a darparu’r cymorth a’r gefnogaeth orau i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Casglir data ledled Cymru, a bydd yn cael ei wneud yn ddienw a’i gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2025. Gallwch edrych ar ddata SASS o’r flwyddyn ddiwethaf yma.
Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, bydd y ffurflen SASS ar agor o 31 Ionawr 2025 ac yn cau ar 14 Mawrth 2025.
Os nad ydych yn cwblhau’r SASS erbyn y dyddiad hwn, bydd hyn yn effeithio eich sgoriau yn y dyfodol. Ewch i’r wefan
Bydd angen i chi gael cyfrif Ar-lein AGC i gwblhau’r SASS. Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd rhaid i chi cymryd camau brys.