Diwrnod Shwmae Sumae

Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn ddathliad blynyddol a gynhelir ar Hydref 15fed yng Nghymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae’n ddiwrnod i bobl o bob oed a chefndir, boed yn rhugl neu’n ddechreuwyr, gyfarch ei gilydd gyda “Shwmae” neu “Sumae” (Helo) a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yr iaith Gymraeg. Y nod yw gwneud y Gymraeg yn fwy hygyrch ac annog pawb i’w defnyddio, waeth beth fo lefel eu rhuglder.

 

I bob darparwr gofal plant all-ysgol: Rydym yn eich gwahodd i ymuno yn yr hwyl a dathlu Diwrnod Shwmae Sumae! Mae’n gyfle gwych i gyflwyno cyfarchion Cymraeg ac ymadroddion syml i’ch gweithgareddau dyddiol, gan helpu plant i ymgysylltu â’r iaith mewn ffordd hwyliog a chynhwysol. P’un ai drwy gemau, caneuon, neu ddim ond yn dweud “Shwmae” i’n gilydd, gadewch i ni wneud y diwrnod hwn yn unarbennig iawn a dangos pa mor fywiog a chroesawgar y gall y Gymraeg fod!

 

Peidiwch ag Anghofio!

Os ydych wedi ymrwymo i’r Addewid Cymraeg – gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu tystiolaeth o’ch lleoliad yn dathlu Diwrnod Shwmae Sumae a’i anfon at eich Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Cymraeg!

 

Ewch i gyfrif Facebook a Twitter Shwmae Sumae am syniadau i’ch ysbrydoli, ac edrychwch hefyd o dan y tab adnoddau ar y wefan

 

Yr Addewid Cymraeg

Ydych chi eisiau cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn eich lleoliad ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Cliciwch ar y ddolen yma