
17.04.2025 |
At sylw busnesau bach, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli cyfle i gael cymorth gwerthfawr!
Ydych chi wedi gwirio a ydych yn gymwys i hawlio’r Lwfans Cyflogaeth?
Mae’r Lwfans yna i gefnogi cyflogwyr llai gyda chostau cyflogaeth ac, os ydych yn gymwys, gall eich helpu i leihau eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at £5,000 yn y flwyddyn dreth gyfredol 2024/25, gan godi i £10,500 ar gyfer 2025/26.
Nid yw’n awtomatig, felly bydd angen i chi ddweud wrth adran Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi os ydych yn gymwys. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn dreth ac ôl-ddyddio hawliadau ar gyfer y pedair blwyddyn dreth flaenorol.