Acoladau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025

Mae’r Acoladau hyn yn wobrau sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

 

Peidiwch â cholli’r cyfle i enwebu Clwb, Gweithiwr Chwarae, Pwyllgor neu Sefydliad gwych ar gyfer y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud o fewn y Sector Gofal Plant All-Ysgol.

 

Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Rydym nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2025 gan grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer y gwobrau i weithwyr.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau yw 5yh ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2024.

Y Categorïau yw:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Gweithio yn ôl egwyddorion arferion sy’n seiliedig ar gryfderau
  • Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig

 

Ymgeisiwch ar gyfer y Gwobrau 2025 | Gofal Cymdeithasol Cymru

Gwobrau 2025 | Gofal Cymdeithasol Cymru

Enwebwch weithiwr ar gyfer Gwobrau 2025 | Gofal Cymdeithasol Cymru

scw-enwebwch-weithiwr-ar-gyfer-gwobrau-2025-567958.pdf (gofalcymdeithasol.cymru)