Mae arnom angen eich help gyda gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru

Mae M·E·L Research yn archwilio  profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.

Mae’r gwaith ymchwil wedi’i comisiynu yr ymchwil gan Llywodraeth Cymru fel rhan o’i Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (CGCWr) Nod y Cynllun hwn yw gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac mae’n cydnabod eu bod yn cael eu tan-gynrychioli mewn nifer o sectorau, gan gynnwys y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Hoffem siarad â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector neu sy’n ystyried gweithio ynddo, er mwyn deall eu profiadau, gan gynnwys eu barn am eu hamgylchedd gwaith ac unrhyw heriau y gallent eu hwynebu.

Nod yr ymchwil yw helpu i lunio’r sector mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn diwallu anghenion holl blant Cymru ac yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol i’w holl weithwyr.

Bydd cymryd rhan yn cynnwys:

  • Sgwrs 45 munud (o bell neu wyneb yn wyneb) gydag un o’n hymchwilwyr, a gynhelir ar amser sy’n addas i’r cyfranogwr, naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg
  • Gweithgaredd cymunedol byr ar-lein dros 3 diwrnod lle gall cyfranogwyr rannu rhagor o feddyliau drwy ysgrifennu, sain, fideo neu luniau (10–20 munud y dydd)

Rydym yn cynnig taleb siopa gwerth £70 i bob cyfranogwr fel diolch am gymryd rhan. Mae’r holl gyfranogiad yn wirfoddol ac yn gyfrinachol.

Mae M·E·L yn ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol annibynnol, a gallwch ddysgu mwy am y cwmni ar ein gwefan: M·E·L Research – Asiantaeth Ymchwil Gymdeithasol ¦ Cwmni Ymchwil Marchnad

Rwy’n cysylltu â chi gyda’r gobaith y byddwch yn rhannu’r cyfle hwn ag unrhyw un a allai fod yn gymwys. Gallai hyn gynnwys aelodau staff, cydweithwyr, myfyrwyr neu rwydweithiau eraill. Gallwch chi ddewis cymryd rhan yn yr ymchwil drwy gysylltu â mi’n uniongyrchol os oes ganddynt ddiddordeb. Byddaf yn gofyn iddynt gwblhau proses sgrinio fer i sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf. Rhannwch fy manylion cyswllt i hwyluso’r cais hwn: gayle.higginson@melresearch.co.uk

Os hoffech wybod mwy am yr ymchwil, neu am M·E·L Research, gadewch imi wybod a gallwn drefnu galwad fer.