
14.03.2025 |
Cymorth gyda Chynaliadwyedd
Gwyddom y gall cynaliadwyedd fod yn her i Glybiau All-Ysgol.
Gall eich Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant ddweud mwy wrthych am ein Grant Lleoedd a Ariennir Moondance i Glybiau sydd wedi cofrestru ag AGC, gan helpu plant i gael budd o chwarae tra hefyd yn chwyddo niferoedd (ac incwm) clybiau.
Gallwn hefyd eich helpu i adolygu eich sefyllfa ariannol, creu rhagolwg llif arian a’ch helpu i ystyried cynaliadwyedd yn y tymor hirach.
Cofiwch gysylltu â ni os teimlwch y gallwn fod o gymorth mewn unrhyw un o’r meysydd hyn.