13.12.2024 |
Cefnogi Gwrth-hiliaeth mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol
Ydych chi eisiau cefnogaeth i ddechrau eich taith fyfyriol Gwrth-hiliaeth yn eich Clwb Plant All-Ysgol?
Cynhaliwyd Clwb Hwb gyda Leon Andrews – DARPL yn ddiweddar gan Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ac yn dilyn hyn, cynhaliwyd rhywfaint o’n myfyrdodau ein hunain, gan ddod i’r casgliad y gallai fod angen mwy o Glybiau Hwb ar y pwnc hwn.
Ymunwch â ni ar Ionawr 13eg, 2025, 6:30 – 7:30 yh, am ein Clwb Hwb Gwrth-hiliaeth, lle rydym yn bwriadu darparu cyfleodd cam wrth gam, gan gynnwys adfywio a rhwydweithio ar eich cyfer chi a’ch tîm.
Nodau’r Clwb Hwb fydd:
- Cefnogi chi i ystyried Egwyddorion 1 & 2 o’r Offeryn Archwilio Gwrth-hiliaeth yn eich Clwb.
- Ein nod yw eich galluogi i rannu syniadau, ystyried awgrymiadau, a chael sesiwn fyfyriol am eich arfer presennol yn y digwyddiad rhwydweithio ar-lein hwn.
Rydym wedi bod yn adolygu’r Archwiliad Gwrth-hiliaeth i’n galluogi i chwilio a chreu adnoddau sydd ar gael i gefnogi Clybiau Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol yng Nghymru.
Gobeithiwn y bydd hwn yn ystod o Glybiau Hwb a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn ystod y sesiwn, felly peidiwch â cholli allan ar y gefnogaeth hon gan ein tîm.
Bwciwch yma: Clwb Hwb – Gwrth-hiliaeth o fewn Clybiau Gofal Plant Allysgol 13/01/2024 (21470)