12.04.2024 |
Cynorthwyo seyfllfa ariannol teuluoedd drwy eich clwb
Mae eich Clwb yn debygol o fod yn darparu gwasanaeth hanfodol a chyson i deuluoedd, yn darparu cyfleoedd chwarae o ansawdd i blant wrth gefnogi teuluoedd i barhau i weithio, cynyddu eu horiau a hyfforddi. Mae darparu gwasanaeth fforddiadwy a hygyrch i deuluoedd yn heriol yn ystod yr amserau hyn sy’n heriol yn economaidd ond mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu.
Cefnogwch rieni i Gofrestru i gael Gofal Plant Di-dreth (i leoliadau sy’n gofrestredig ag AGC yn unig). Drwyddo gall rhieni hawlio hyd at £2,000.00 y flwyddyn y plentyn tuag at ffioedd gofal plant.
Am fwy o syniadau ac awgrymiadau dilynwch ein cyfres ’10 Ffordd .…’ ac fe welwch sut y gallwch gefnogi teuluoedd sydd yn eich clwb.
10 ffordd o gefnogi teuluoedd.
A ydych chi’n hyrwyddo gofal Plant Di-dreth? – Clybiau Plant Cymru (CY)