29.10.2026 |
Syniadau codi arian yn yr hydref
Guto Ffowc – Yn draddodiadol, byddai plant yn gwneud Guto Ffowc drwy stwffio hen ddillad â gwellt a phapur newydd. Byddent wedyn yn mynd â’r Guto o gwmpas i gasglu arian i brynu tân gwyllt ar gyfer Noson Tân Gwyllt. Yn lle hynny, gallech gynnal cystadleuaeth gwneud Guto Ffowc. Gellid arddangos y Gutos gorffenedig mewn man lle gall pobl eu beirniadu neu bleidleisio dros eu ffefryn.
Hwyl Pobi – Gellid pobi bisgedi yn y clwb, eu haddurno ag eisin ar ffurf tân gwyllt a’u gwerthu i rieni. Pwy allai wrthsefyll prynu un!
Calendr – Yr hydref yw’r amser perffaith i ddechrau llunio calendr i’w werthu mewn ffeiriau ysgol wrth i’r Nadolig agosáu. Dechreuwch drwy dynnu lluniau o’r plant yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Gwnewch yn siŵr bod pob plentyn yn ymddangos yn y lluniau, neu gofynnwch i’r plant dynnu llun, er mwyn apelio at gynifer o brynwyr â phosibl. Gallwch greu eich calendr eich hun neu ofyn i gwmni ar-lein ei argraffu am bris rhesymol. Gwnewch yn siŵr bod y calendrau’n barod mewn da bryd cyn dechrau’r flwyddyn newydd, er mwyn gwerthu cynifer â phosibl.
4 awgrym da ar gyfer codi arian
1. Cynhwyswch y plant – Mae’n wych cynnwys plant mewn gweithgareddau codi arian o oedran cynnar, gan ddangos iddynt fod helpu eraill yn bwysig ac yn bleserus. Mae’n sgìl bywyd pwysig ac mae’n helpu i feithrin y math o gymuned yr ydym i gyd yn ei dymuno.
2. Defnyddiwch eich cysylltiadau – Mae siarad â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr, sef y bobl yr ydych yn eu hadnabod orau, ac ystyried sut y gallant gefnogi eich ymgyrch codi arian yn fan cychwyn gwych.
3. Byddwch yn hyderus! – Nid yw gofyn am roddion a nawdd yn dod yn naturiol i bawb, ond gydag ychydig o ymdrech, bydd yn werth chweil. Nid yw mor anodd os na fyddwch yn gadael y cyfan tan y funud olaf.
4. Gwybod y ffeithiau – Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth bobl am eich digwyddiad. Rhowch wybod iddynt beth yr ydych yn ei wneud, at beth y bydd yr arian a godwch yn mynd a sut y bydd yn helpu. Gallwch hefyd rannu’r wybodaeth hon pan fydd pobl yn gofyn. Bydd gwybodaeth benodol a straeon am eich ymgyrch codi arian yn sicr o helpu.