24.02.2023 |
Rhowch wybod i Gymru Iach ar Waith am eich pryderon yn y gweithle drwy lenwi ei Arolwg i Gyflogwyr 2023 (Dyddiad Cau: 5 Mawrth 2023)
Gyflogwyr – Mae Cymru Iach ar Waith (HWW) eisiau gwybod beth yw eich pryderon am iechyd a llesiant yn y gweithle a sut y gallai helpu.
Mae’r Arolwg i Gyflogwyr 2023 wedi’i gynllunio ar gyfer cyflogwyr sydd â staff yng Nghymru. Dyma’r trydydd mewn cyfres o arolygon HWW sy’n caniatáu iddo olrhain ffactorau sy’n effeithio ar iechyd gweithwyr a’u sefydliadau. Yn yr un diweddaraf hwn, mae’n mynd at wraidd sut y gall gynorthwyo cyflogwyr i reoli absenoldeb oherwydd salwch a chadw pobl â chyflyrau iechyd yn y gwaith. Cynhaliwyd yr arolygon blaenorol yn 2019 a 2021.