
14.02.2025 |
Diolch, Harriet Carr, am sesiwn Clwb Hwb anhygoel ddydd Mercher, 5ed o Chwefror 2025
Cyflwynodd Harriet y pwnc o Chwarae a Lles, gan ddarparu syniadau, awgrymiadau ac offerynnau i ddefnyddio gyda phlant mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru.
Adborth gan y mynychwyr –
“Cwrs gwerthfawr sy’n atgyfnerthu grym chwarae wrth feithrin lles, tyfiant a hapusrwydd plant, llawer o syniadau newydd, ‘gyda chariad, gan y lyfr.”
Diolch yn fawr i’r holl gyfranogwyr a wnaeth rhyngweithio gyda’r sesiwn, cafwyd cynulleidfa wych a bydd y sesiwn hon yn cael ei dilyn gan becyn adnoddau i’w ddefnyddio fel tîm yn eich clwb. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am y pecyn adnoddau i aelodau cyn bo hir!
Mae ein Clybiau Hwb rheolaidd yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, ac mae diolch i Brosiect Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig y Loteri Genedlaethol sy’n ariannu ein gwaith, yn galluogi ni i gyflwyno a darparu amrywiaeth o wybodaeth gefnogol i Sector Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol.
Gallwch brynu llyfr Harriet – The Mindful Walk gan Harriet Beth Carr