Y Ddadl ar ymchwiliad y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i ofal plant a mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl ac i ba raddau y mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Cafodd adroddiad y Pwyllgor o’r enw ‘A oes gan blant a phobl ifanc anabl fynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Tachwedd, gallwch ei wylio ar   Senedd TV  neu ddarllen y Trawsgrifiad. Byddant yn monitro’r adroddiad hwn yn agos ac yn parhau i wneud yr hyn a allant ei wneud er mwyn brwydro dros fynediad cyfartal i ofal plant ac addysg drwy gyfnod y Senedd hon a thu hwnt.

 

Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu at yr ymchwiliad.

 

Gallwch ddarllen mwy yma.