Wythnos Ymddiriedolwyr Tachwedd 4 – 8 2024

Mae wythnos yr ymddiriedolwyr yn amser i ni ddod at ein gilydd i ddathlu llwyddiannau bron i filiwn o ymddiriedolwyr ar draws y DU.

I gydnabod a diolch i bob ymddiriedolwr am yr amser, yr ymrwymiad a’r ymdrech a roddwch i’ch elusennau i’w helpu i ffynnu.

Dymunwn ddiolch i’n bwrdd ymddiriedolwyr ein hunain sy’n ein cefnogi ym mhopeth a wnawn yn Clybiau Plant Cymru Kids Clubs.

Mae ein Hymddiriedolwyr yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl sy’n cynrychioli’r sefydliad yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Yn ogystal â mynychu cyfarfodydd rheolaidd, mae Ymddiriedolwyr yn gweithio ar ddatblygu eu sgiliau ac yn aml yn mynychu sesiynau hyfforddi neu gynadleddau perthnasol a allai helpu i wella eu gwybodaeth ymhellach.

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau cyfeiriad strategol yr elusen, sicrhau arweinyddiaeth glir a gwneud penderfyniadau ar bob lefel a monitro perfformiad ariannol er mwyn darparu gwerth am arian.

 

Cwrdd â’r Bwrdd – Clybiau Plant Cymru  

Trustees Week – Showcasing the work of charity trustees