Trwy lens y Plentyn

A ydych eisiau adlewyrchu ar sut mae plant yn profi chwarae, perthnasoedd a synnwyr o berthyn?

Mae Trwy lens y Plentyn yn sesiwn ar-lein wedi’i rhestru gan Chwarae Cymru ar gyfer Dydd Iau 22 Hydref. Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar sylfeini blynyddoedd cynnar mewn chwarae, perthnasoedd a pherthyn. 

Mae’n cynnig cyfle i adlewyrchu ar brofiadau’r plant ac ystyried sut mae’r oedolyn a’r amgylcheddau o’u cwmpas yn gallu cefnogi profiadau chwarae cadarnhaol.  

Dydd Iau 22 Hydref 2026 

6.30pm–8.30pm 

Ar-lein 

Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ymarferwyr sydd eisiau adlewyrchu ar sut mae arferion, amgylchedd a rhyngweithiau eu clwb yn cefnogi anghenion a dewisiadau’r plant.

👉 Cewch rhagor o wybodaeth: Digwyddiadau – Chwarae Cymru